‘Layers of Abundance’ Community Woodlands Grant

Scroll down for English

‘Haenau Digonedd’ yn cael eu ychwanegu i Ardd Goedwig Gymunedol leol.  Mae Naturewise wedi enill £36,966 o gyllid er mwyn gwella’r mentro 5 erw ar gyrion Aberteifi.  Ariennir y prosiect yma gan y cynllun Coetiroedd Cymunedol. Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Nod prosiect ‘Haenau Digonedd’ yw darparu mynediad at fwyd iach, cynaliadwy a dyfir yn lleol ac ymdeimlad a rennir o gymuned a chyfrifoldeb dros ein gilydd a byd natur trwy: gynyddu bioamrywiaeth y safle, plannu haenau niferus o lwyni a phlanhigion fwytadwy, meddyginiaethol a natur-buddiol o dan y coed ffrwythau a chnau presennol, a chyflwyno coed cynhyrchiol ychwanegol.  

Bydd y cyllid yn gwella mynediad i ymwelwyr a gwirfoddolwyr fel ei gilydd gyda llwybr Pob-Gallu newydd yn arwain o amgylch y cyfleusterau ecogyfeillgar, trwy’r goedwig fwyd i’r pwll sydd newydd ei adeiladu. Bydd ffens newydd yn sicrhau bod holl waith caled plannu y gwirfoddolwyr yn cael ei amddiffyn rhag y cwningod sy’n pori. Nid yw’r ffens yn diogelu’r safle cyfan – bydd lle helaeth yn cael ei adael ar gyfer bywyd gwyllt yn y parthau ymylol lle bydd blychau adar ac ystlumod hefyd yn cael eu gosod.

Cafodd y safle, sydd wedi’i leoli ar ddiwedd Parc Teifi, ei sefydlu yn 2019 i fynd i’r afael ag anghenion pobl leol ac i wella gwydnwch yn wyneb Newid yn yr Hinsawdd. Mae’r cyllid hwn sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan y gymuned, yn ehangu cyfleoedd i bobl fwynhau amser ym myd natur wrth gymryd camau cadarnhaol dros y blaned, dysgu sgiliau newydd a gwneud cysylltiadau newydd ar hyd y ffordd.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am y cyllid Coetir Cymunedol. Rydym yn edrych ymlaen yn arbennig at groesawu mwy o amrywiaeth o ymwelwyr a gwirfoddolwyr i’r cam nesaf cyffrous hwn o’r Ardd Goedwig. Dewch yn lli i gymryd rhan!”

‘Layers of Abundance’  added to local Community Forest Garden.  Cardigan’s Naturewise Community Forest Garden scoops £36,966 of funding to further enhance the 5 acre venture.    This project is funded by the Community Woodlands scheme. It is being delivered by The National Lottery Heritage Fund in partnership with the Welsh Government. 

The ‘Haenau Digonedd’ project aims to provide access to locally grown, healthy, sustainable food and a shared sense of community and responsibility for each other and nature by: increasing the biodiversity of the site, planting many layers of edible, medicinal and nature-beneficial shrubs and plants beneath the existing fruit & nut trees, and the introduction of additional productive trees. 

The funding will improve access for visitors and volunteers alike with a new All-Ability path leading around the eco-friendly facilities, through the food-forest to the newly constructed pond area. A new fence will ensure that all the volunteers’ hard work planting will be protected from the grazing rabbits.  The fence doesn’t protect the entire site – generous space will be left for wildlife in the peripheral zones where bird and bat boxes will also be installed.

The site, located at the end of Parc Teifi, was set-up in 2019 to address the needs of local people and to improve resilience in the face of Climate Change.  Already being used regularly by the community, this funding will expand opportunities for people to enjoy time in nature whilst taking a positive action for the planet, learning new skills and making new connections along the way.   

“We’re really grateful to the Welsh Government and The National Lottery Heritage Fund for the Community Woodland funding.  We’re especially looking forward to welcoming a greater diversity of visitors and volunteers to this exciting next stage of the Forest Garden.  Come and get involved!”