Open afternoon for children and parents of Ysgol Gynradd Aberteifi
As part of the grant we received from CAVO called Green Communities, we invited parents to see the garden and what their children had been up to in school time. The afternoon was a great success with delicious potato patties, freshly cooked on the rocket stove, onion bajis, salad and pitta bread. After a tour of the garden, including the medicinal beds, ponds, fruit trees and a talk about bees, there was a choice of cakes and tea or coffee.
We wanted to make the afternoon special, welcoming and inspiring. We had an excellent response with genuine interest in what we are up to and how to get involved.
Thank you to all the volunteers who contributed to the afternoon and to the garden over the weeks and months. The garden looks incredible and we have had lots of fruit and there’s more to come. If you are a volunteer you can take home some produce that has been picked during that day. We have vegetables and fruit to share like: courgettes, beans, rocket, beetroots and currants.
Prynhawn agored i blant a rhieni Ysgol Gynradd Aberteifi
Fel rhan o’r grant a gaethon ni gan CAVO o’r enw Cymunedau Gwyrdd, gwahoddwyd rhieni i weld yr ardd a’r hyn yr oedd eu plant wedi bod yn ei wneud yn ystod amser ysgol. Roedd y prynhawn yn llwyddiant ysgubol gyda phasteiod tatws blasus, wedi’u coginio’n ffres ar y stôf roced, bajis winwns, salad a bara pitta. Ar ôl taith o amgylch yr ardd, gan gynnwys y gwelyau meddyginiaethol, pyllau, coed ffrwythau a sgwrs am wenyn, roedd dewis o gacennau a the neu goffi.
Roedden ni eisiau gwneud y prynhawn yn arbennig, yn groesawgar ac yn ysbrydoledig. Cawsom ymateb rhagorol gyda diddordeb gwirioneddol yn yr hyn yr ydym yn ei wneud a sut i gymryd rhan.
Diolch i’r holl wirfoddolwyr a gyfrannodd at y prynhawn ac at yr ardd dros yr wythnosau a’r misoedd. Mae’r ardd yn edrych yn anhygoel ac rydym wedi cael llawer o ffrwythau ac mae mwy i ddod. Os ydych chi’n wirfoddolwr gallwch fynd â rhywfaint o gynnyrch adref sydd wedi’i gasglu yn ystod y diwrnod hwnnw. Mae gennym lysiau a ffrwythau i’w rhannu fel: courgettes, ffa, roced, betys a chyrens.