Permaculture In West Wales.

Category: Forest Garden

Home » Naturewise » Archive by category "Forest Garden" (Page 2)

Apple Harvesting & Processing – Cynhaeafu a phrosesu Afalau

We did several sessions of apple picking and realised that with so many trees ready early, we couldn’t finish the job on just a Tuesday volunteer work day.

Gwanaethon ni sawl sesiwn o pigo afalau ond sylweddolon ni gan bod gormod o goed yn barod yn gynnar, gallen ni ddim gwneud y cyfan ar dyddiau Mawrth yn unig.

Jenny suggested we pick as many apples that we could because they were falling to the floor and getting damaged and it’s good to do the harvest right! On an extra Wednesday afternoon session Claire and Jenny worked for a few hours and picked nearly 300lbs of apples!  Sunset, Lanes Prince Albert cookers, 3 trees worth of Adams Pearmain and a Herefordshire Russet. All volunteers can take apples, and our apples are for sale.

Awgrymodd Jenny ein bod ni’n casglu cymaint o afalau ag y gallem oherwydd eu bod nhw’n cwympo i’r llawr ac yn cael eu difrodi ac mae’n dda gwneud y cynhaeaf yn iawn! Mewn sesiwn ychwanegol brynhawn Mercher, gweithiodd Claire a Jenny am ychydig oriau a chasglu bron i 300 pwys o afalau! Sunset, Lanes Prince Albert, gwerth 3 choeden o Adams Pearmain a Rhytgoch Henffordd. Gall pob gwirfoddolwr gymryd afalau, ac mae ein afalau ar werth.

We held an Apple Chutney making day on Monday 15th  September. Volunteers made: Spicy Apple and Marrow Chutney, Plain Apple Chutney, Courgette and Apple Chutney and Spiced Apple Butter using produce grown at the Forest Garden and bought organic ingredients. This day was lovely and attracted some people who don’t volunteer in the garden.

Fe wnaethon ni gynnal diwrnod gwneud Chutney Afal ddydd Llun 15fed Medi. Gwnaeth gwirfoddolwyr: Tsytni Sbeislyd Afal a Maro, Tsytni Afal Plaen, Tsytni Corbwmpen ac Afal a Menyn Afal Sbeislyd gan ddefnyddio cynnyrch a dyfwyd yn yr Ardd Goedwig a cynhwysion organig o’r siop. Roedd y diwrnod hwn yn hyfryd a denodd rai pobl nad ydynt yn gwirfoddoli yn yr ardd.

If you missed getting a jar at our Open Day, you can now buy our Chutneys and Apple Butter from The Eco Shop in Cardigan. 

Os colloch chi’ r cyfle cael jar yn ystod ein Diwrnod Agored, gallech prynnu ein Tsytnis a Menyn ‘Fale o’r SiopEco yn Aberteifi.

We have so many apples that Claire even made apple fritters on the rocket stove for one of the Tuesday Volunteer days: lots of us ate these delicious, fried, vegetarian snacks instead of cake.

Mae gynnon ni sut gymaint o afalau gwnaeth Claire hyd yn oed creu ffritters ‘falau ar y stôf roced i un o’r dyddiau Mawrth Gwirfoddoli.  Bwytaodd llawer ohonom y snacs llysieuol blasus wedi’u ffrio yn lle cacen. 

Read More

Ein Cegin’s Bake your Lawn project finale. Diweddglo prosiect ‘Pobi’ch Lawnt’ Ein Cegin.

Over the course of the year Ein Cegin with Flying Start and Plant Dewi, have been running their wonderful project at 3 local community gardens, funded by the National Lottery Heritage Fund.  The idea was to create a feast from field to fork, to engage and enthuse families about the origins & traditional methods of familiar foods.  Sessions were held once a month where the Flying Start families came with their small children, enjoyed the garden, prepared & ate delicious fresh food together and often undertook some kind of craft.  The sessions at Naturewise were on the same day as our regular volunteer days meaning that volunteers could join in with activities or continue with their garden tasks.  It was lovely to see people enjoying the garden and even nicer to get to share in the amazing food!

Dros y flwyddyn mae Ein Cegin gyda Dechrau’n Deg a Phlant Dewi wedi bod yn cynnal eu prosiect gwych mewn 3 gardd gymunedol leol, wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Y syniad oedd creu gwledd o’r cae i’r fforc, i ymgysylltu ac ennyn brwdfrydedd teuluoedd ynghylch tarddiad a dulliau traddodiadol bwydydd cyfarwydd. Cynhaliwyd sesiynau unwaith y mis lle daeth teuluoedd Dechrau’n Deg gyda’u plant bach, yn mwynhau’r ardd, yn paratoi ac yn bwyta bwyd ffres blasus gyda’i gilydd ac yn aml yn ymgymryd â rhyw fath o grefft. Roedd y sesiynau yn Naturewise ar yr un diwrnod â’n diwrnodau gwirfoddoli rheolaidd sy’n golygu y gallai gwirfoddolwyr ymuno â gweithgareddau neu barhau â’u tasgau gardd. Roedd yn hyfryd gweld pobl yn mwynhau’r ardd ac yn brafiach fyth cael rhannu yn y bwyd anhygoel!

‘April Bearded’ heritage wheat was sown in the spring – ours had very poor germination but the other gardens in Llandysul & Newcastle Emlyn were far more successful.  The harvested wheat was threshed at the Talgarreg Vintage Fair. 

Heuwyd gwenith treftadaeth ‘Barfog Ebrill’ yn y gwanwyn – gwnaeth rhai ni egino’n gwael iawn ond roedd y gerddi eraill yn Llandysul a Chastellnewydd Emlyn yn llawer mwy llwyddiannus. Cafodd y gwenith a gynaeafwyd ei ddyrnu yn Ffair Hen Bethau Talgarreg.

During one of the sessions Elin Jones MS and her colleague Anna Nichol (Plaid Cymru’s candidate for Cardigan in next years Senedd election) came to see the project.  Ein Cegin had invited them and we were very lucky that they chose to come to a session at our Community Garden rather than one of the others – this gave us the opportunity to showcase Naturewise, what we do and where we are. 

Yn ystod un o’r sesiynau daeth Elin Jones AS a’i chydweithiwr Anna Nichol (ymgeisydd Plaid Cymru dros Aberteifi yn etholiad Senedd y flwyddyn nesaf) i weld y prosiect. Roedd Ein Cegin wedi eu gwahodd ac roedden ni’n ffodus iawn eu bod nhw wedi dewis dod i sesiwn yn ein Gardd Gymunedol yn hytrach nag un o’r lleill – rhoddodd hyn y cyfle i ni arddangos Naturewise, yr hyn rydyn ni’n ei wneud a ble rydyn ni.

Guest artists were brought in to run the craft sessions.  Kristina harvested clay from our big pond for making little figures and brought commercial clay for items to be glazed and fired.  Plates, bowls and little candles were made and decorated, often featuring the image of the wheat. Participants could take these home after the final celebratory feast.

Daethpwyd ag artistiaid gwadd i mewn i gynnal y sesiynau crefft. Casglodd Kristina glai o’n pwll mawr ar gyfer gwneud ffigurau bach a daeth â chlai masnachol ar gyfer eitemau i’w gwydro a’u tanio. Gwnaed ac addurnwyd platiau, powlenni a chanhwyllau bach, yn aml yn cynnwys delwedd y gwenith. Gallai’r cyfranogwyr fynd â’r rhain adref ar ôl y wledd ddathlu olaf.

Erin ran a session on Corn Dollies, teaching participants how to make several different traditional forms of harvest tokens.

Off-site, the families learnt how to make cheese and butter with Maya at Caws Teifi

Sessions were also held at the Cardigan Family Centre.

Cynhaliodd Erin sesiwn ar Ddolïau Corn, gan ddysgu cyfranogwyr sut i wneud sawl math traddodiadol gwahanol o docynnau cynaeafu.

Oddi ar y safle, dysgodd y teuluoedd sut i wneud caws a menyn gyda Maya yng Nghaws Teifi.

Roedd sesiynnau hefyd yn cael eu cynnal yn Ganolfan y Teulu yn Aberteifi. 

The final feast had to be postponed due to the weather but was held successfully on Friday 17th October in glorious sunshine.  Juice was made from our apples using a manual scratter and press.  Carrie from Ceredigion Museum brought artefacts from their collection including butter stamps and harvest tokens.  Owen Shires entertained us with traditional songs and stories about his personal experience with heritage grains. It was a heart warming end to a beautiful project which brought new skills and new people of all ages to the Forest Garden – some have even been back on our normal volunteer days. 

Bu’n rhaid gohirio’r wledd olaf oherwydd y tywydd ond fe’i cynhaliwyd yn llwyddiannus ddydd Gwener 17 Hydref mewn heulwen ogoneddus. Gwnaethon ni sudd o’n afalau gyda offer torri a gwasgu â llaw.  Daeth Carrie o Amgueddfa Ceredigion ag arteffactau o’u casgliad gan gynnwys stampiau menyn a chofroddion cynhaeaf. Gwnaeth Owen Shires ein diddanni gyda chaneuon traddodiadol a straeon am ei brofiad personol gyda grawn treftadaeth. Roedd yn ddiweddglo cynnes i brosiect hardd a ddaeth â sgiliau newydd a phobl newydd o bob oed i’r Ardd Goedwig – mae rhai hyd yn oed wedi bod yn ôl ar ein dyddiau gwirfoddoli arferol.

Read More

Brown Hairstreak Butterfly Egg survey.- Nov 15

Here is the poster for the Brown Hairstreak Butterfly Egg survey.

The start is from 10.30am. There is no finish time, so if people want to stop and hear about the Forest Garden that can be done. If the survey is not finished in the morning it can also continue for part of the afternoon.

Please bring food and drink if stopping most of the day.

Dyma’r poster ar gyfer Arolwg Wyau Pili-Pala Brown Hairstreak.

Mae’r dechrau o 10:30am. Nid oes amser gorffen, felly os yw pobl eisiau stopio a gwrando am y Gardd Goedwig gellir gwneud hynny. Os na chaiff yr arolwg ei gwblhau yn y bore, gall bwrw ymlaen hefyd am ran o’r prynhawn.

Dewch â bwyd a diod os ydych chi’n bwriadu aros rhan fwyaf o’r dydd.

Read More

At the Forest Garden on 28 Oct – An Evening of Story telling

This is the poster of our evening called : A Games of Candles, entering darkness one story at a time. Tuesday 28th October, 5.30-7.30 at Naturewise Community Forest Garden.

Tickets £8.50/ £6 conc/ £3.50 under 18, includes refreshments.

A great evening devised by Alice Courvoisier, who has told stories at the garden many times. Claire and friends will be joining Alice. Book through claire@naturewise.org.uk

There are about 30 seats or so, so its first come first served. Book your tickets now..

Read More

Autumn Open day – Diwrnod Agored yr Hydref  – More Details

Autumn Open day Saturday 20th September 1-6pm

Diwrnod Agored yr Hydref Dydd Sadwrn 20fed Medi 1-6yp

Below is the  schedule for the afternoon. There will be talks, demonstrations, crafts, a volunteer information tent (see poster below) and two tours of the garden. We will try and stick to times but these may vary. 

Isod mae’r amserlen ar gyfer y prynhawn. Bydd sgyrsiau, arddangosiadau, crefftau, pabell wybodaeth i wirfoddolwyr a chynigir 2 daith o amgylch yr ardd. Byddwn yn ceisio cadw at yr amseroedd ond gall y rhain amrywio.

Craft tent

  • 1pm – 2.30pm Whittling with Claire 
  • 2.30- 4.30pm Paper Windmills with Lia
  • Colouring-in ongoing
  • 2.45 – 4pm simple nature painting with Raphaelle

Pabell Crefft

  • 1.00 -2.30yp Naddu gyda Claire
  • 2.30-4.30yp Dolis ŷd gyda Erin
  • Lliwio mewn – trwy’r dydd
  • 2.45-4yp  peintio natur syml gyda Raphaelle

Schedule of Talks and demonstrations.  

  • 1.15pm Jade and the copper boiler  (in her own tent  till 1.45)
  • 2pm  Jams, chutneys, fruit leathers, with  Raphaelle for ½ hour plus time for Q&A 
  • 2.45pm Tour 45 mins
  • 4.00pm  Wine, cordials and teas Claire  for ½  hour plus time for Q&A 
  • 4.30/ 4.45pm  Bilingual tour
  • 5.30pm  Film Ceredigion Animation Club  

Amserlen Sgyrsiau ac arddangosiadau.

  • 1.15pm Jade a’r dystyll copr (yn ei phabell ei hun tan 1.45)
  • 2yp Jamiau, chutneys a lledr ffrwythau gyda Raphaelle am ½ awr ynghyd ag amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb
  • 2.45yp Taith o’r Ardd Goedwig 45 munud
  • 4.00yp Gwin, cordialau a the gyda Claire am ½ awr ynghyd ag amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb
  • 4.30/4.45yp Taith ddwyieithog
  • 5.30yp Ffilm Clwb Animeiddio Ceredigion 

Whittling Workshop 1 – 2.30pm

Whittling is one of the craft options available on the Open day. An option for young or old is to whittle a simple butter knife (spread knife) this starts at 1pm and is suitable for people aged 6 years upwards.

Gweithdy Naddu

Mae naddu yn un o’r opsiynau crefft sydd ar gael ar y Diwrnod Agored.  Dewis i bobl ifanc neu hen yw naddu cyllell fenyn syml (cyllell ledaenu) mae hyn yn dechrau am 1pm ac mae’n addas ar gyfer pobl 6 oed a hŷn.

Aromatic Water demonstration 1.15 – 1.45pm

Jade Mellor will use a copper still to create aromatic water during the afternoon. Jade will explain the process at the beginning of the session.  It takes half an hour to fire up and then a couple of hours to drip through. People can drop into the tent/area to watch this process, which can produce both aromatic water and essential oils. At the end of the day or when the brew has finished,  people can bring clean bottles to take some water home.  

Arddangosiad Dŵr Aromatig

Bydd Jade Mellor yn defnyddio distyll copr i greu dŵr aromatig yn ystod y dydd. Bydd Jade yn esbonio’r broses ar ddechrau’r dydd. Mae’n cymryd hanner awr i danio ac yna cwpl o oriau i ddiferu drwyddo. Gall pobl alw heibio i’r babell/ardal i wylio’r broses hon, a all gynhyrchu dŵr aromatig ac olewau hanfodol. Ar ddiwedd y dydd neu pan fydd y brag wedi gorffen, gall pobl ddod â photeli glân i fynd â rhywfaint o ddŵr adref.

Corn dolly Workshop- Cancelled – Windmills of Paper with Lia Instead  2.30 – 4.30pm

 

Animation Screening – 5.30pm

We have an exciting addition to the day from Ceredigion Animation Club. They will be showing a short animation called Wild Words which is 9 minutes long. Rhowan will be setting up the ‘off-grid cinema’ in the Roundhouse at around 5.30pm on our Open Day.

If there is time, they can show another short film from their collection.

Dangosiad Animeiddio

Mae gennym ychwanegiad cyffrous i’r diwrnod gan Glwb Animeiddio Ceredigion. Byddant yn dangos animeiddiad byr o’r enw Geiriau Gwyllt sy’n 9 munud o hyd. Bydd Rhowan yn sefydlu’r ‘sinema oddi ar y grid’ yn y Tŷ Crwn tua 5.30pm ar ein Diwrnod Agored.  Os oes amser, gallant ddangos ffilm fer arall o’u casgliad.

See also previous post on this link

Read More

Autumn Open day – Diwrnod Agored yr Hydref 

Autumn Open day Saturday 20th September 1-6pm

Diwrnod Agored yr Hydref Dydd Sadwrn 20fed Medi 1-6yp

There will be talks about many different ways to preserve the food harvest  like: how to make Fruit leather, Jams & jellies, Chutney, Vinegar and Pickles

Bydd sgyrsiau am lawer o wahanol ffyrdd o gadw’r cynhaeaf bwyd fel: sut i wneud lledr ffrwythau, jamiau a jeli, chutney, finegr a phicls

Also how to make Wine, Cordial and teas. There will be information about the medicinal properties of the teas.

Hefyd sut i wneud Gwin, Cordial a the. Bydd gwybodaeth am briodweddau meddyginiaethol y te.

During the day there will be a craft tent, with opportunities for everyone to be creative, by trying out whittling, painting, and making. 

Yn ystod y dydd bydd pabell grefftau, gyda chyfleoedd i bawb fod yn greadigol, drwy roi cynnig ar naddu, peintio a gwneud.

There will be tea and cakes available to purchase. 

Bydd te a chacennau ar gael i’w prynu.

We will have an information stall about the many opportunities for volunteering at Naturewise (see poster below).  You can find out about the kinds of tasks and activities with our volunteer team. 

Bydd gennym stondin wybodaeth am y cyfleoedd niferus i wirfoddoli yn Naturewise. Gallwch ddysgu mwy am y mathau o dasgau a gweithgareddau gyda’n tîm gwirfoddolwyr.

There will be tours of the garden including, medicinal beds, apples & fruit of all kinds, almonds, and the new pond area.  Come and see what Ysgol Gynradd Aberteifi has been up to; planting flowers for pollinators and making the area beautiful. Plus the new gates made by the volunteer team at Copicewood College. 

Bydd teithiau o amgylch yr ardd gan gynnwys gwelyau meddyginiaethol, afalau a ffrwythau o bob math, almonau, a’r ardal pwll newydd. Dewch i weld beth mae Ysgol Gynradd Aberteifi wedi bod yn ei wneud; plannu blodau ar gyfer peillwyr a gwneud yr ardal yn brydferth. Hefyd y gatiau newydd a wnaed gan y tîm gwirfoddol yng Ngholeg Copicewood.

There will be elephant garlic, apples and chutney to purchase. 

Mi fydd garlleg eliffant, afalau a siytni i’w prynu.

Read More

Cylchlythyr Awst 2025 August newsletter – Copy

Hello Naturewise Community Forest Garden supporters!  

We hope you are enjoying your summer?  Time is racing and we’re half way through the school holidays already!  We have been pretty busy at the Forest Garden recently, with plenty more coming up…

Helô cefnogwyr Ardd Goedwig Gymunedol Naturewise!  

Gobeithio eich bod chi’n joio mâs draw?  Mae amser yn hedfan ac rydyn ni hanner ffordd trwy gwyliau ysgol yn barod!  Rydym ni wedi bod yn eithaf fisi yn diweddar gyda lawyer mwy i ddod…

August Dates:

Dyddiadau Awst

Tuesday 5th

Dydd Mawrth 5ed

Tuesday 12th

Dydd Mawrth 12fed

Saturday 16th

Dydd Sadwrn 16fed

Tuesday 19th

Dydd Mawrth 19fed

Tuesday 26th

Dydd Mawrth 26th

We are open to everyone joining us throughout the summer every Tuesday and the third Saturday of each month. You are welcome to pop in or stay for the day – we open at 10am and close around 4pm. Volunteer coordinators are on hand to support everyone to find a job you would like to do.  August activities will include summer pruning of fruit trees, beginning the apple harvest  and scything the meadow areas, along with many other gardening and maintenance tasks.  Supervised children are welcome, bring their friends and a packed lunch. It’s a safe place to play, explore and learn.  These are open-access days for people of all ages – there are tasks available if you’d like to join in, but you are more than welcome to just come and enjoy the space.  There are benches to sit on in several different habitats – come and see all the different plants, insects and birds that call this garden home.  Bring a blanket and a good book, sit and meditate or go for a stroll through the garden.

Rydym ar agor i bawb sy’n ymuno â ni drwy gydol yr haf bob dydd Mawrth a thrydydd dydd Sadwrn pob mis. Mae croeso i chi alw heibio neu aros am y diwrnod – rydym yn agor am 10yb ac yn cau tua 4yp. Mae cydlynwyr gwirfoddoli wrth law i gefnogi pawb i ddod o hyd i swydd yr hoffech ei gwneud. Bydd gweithgareddau Awst yn cynnwys tocio hâf i’r coed ffrwythau, dechrau y cynhaeaf afalau a phladuro’r dôlydd, yn mhlîth llwyth o jobs garddio, cynnal a chadw.  Mae croeso i blant dan oruchwyliaeth, dewch â’u ffrindiau a chinio pecyn. Mae’n lle diogel i chwarae, archwilio a dysgu.  Mae’r rhain yn ddiwrnodau mynediad agored i bobl o bob oed – mae tasgau ar gael os hoffech ymuno, ond hefyd mae croeso i chi ddod a mwynhau’r lle. Mae meinciau i eistedd arnynt mewn sawl cynefin gwahanol – dewch i weld yr holl blanhigion, pryfed ac adar gwahanol sy’n galw’r ardd hon yn gartref. Dewch â blanced a llyfr da, eisteddwch a myfyriwch neu ewch am dro drwy’r ardd.

Saturday 16 Aug BBQ for volunteers/ Barbeciw i’r gwirfoddolwyr.

At the end of this month’s usual Saturday, there will be a chance for volunteers to relax and socialise at a communal BBQ.  Bring what you’d like to eat or a dish to share – there will be separate grills for meat and vegetables.  It will be a lovely opportunity to enjoy just being in the garden whilst the summer evenings are still long and pleasant.  

Ar ddiwedd dydd Sadwrn arferol y mis hwn, bydd cyfle i wirfoddolwyr ymlacio a chymdeithasu gyda barbeciw cymunedol. Dewch â’r hyn yr hoffech ei fwyta neu pryd i’w rhannu – bydd griliau ar wahân ar gyfer cig a llysiau. Bydd yn gyfle hyfryd i fwynhau bod yn yr ardd tra bod nosweithiau’r haf yn dal yn hir ac yn ddymunol.

Catch up with everything that has been happening at the Forest Garden:

Green Communities Grant

Open afternoon for children and parents of Ysgol Gynradd Aberteifi

As part of the grant we received from CAVO called Green Communities, we invited parents to see the garden and what their children had been up to in school time. The afternoon was a great success with delicious potato patties, freshly cooked on the rocket stove, onion bajis, salad and pitta bread. After a tour of the garden, including the medicinal beds, ponds, fruit trees and a talk about bees, there was a choice of cakes and tea or coffee. 

We wanted to make the afternoon special, welcoming and inspiring. We had an excellent response with genuine interest in what we are up to and how to get involved. 

Thank you to all the volunteers who contributed to the afternoon and to the garden over the weeks and months. The garden looks incredible and we have had lots of fruit and there’s more to come. If you are a volunteer you can take home some produce that has been picked during that day. We have vegetables and fruit to share like:  courgettes, beans, rocket, beetroots and currants.

Prynhawn agored i blant a rhieni Ysgol Gynradd Aberteifi

Fel rhan o’r grant a gaethon ni gan CAVO o’r enw Cymunedau Gwyrdd, gwahoddwyd rhieni i weld yr ardd a’r hyn yr oedd eu plant wedi bod yn ei wneud yn ystod amser ysgol. Roedd y prynhawn yn llwyddiant ysgubol gyda phasteiod tatws blasus, wedi’u coginio’n ffres ar y stôf roced, bajis winwns, salad a bara pitta. Ar ôl taith o amgylch yr ardd, gan gynnwys y gwelyau meddyginiaethol, pyllau, coed ffrwythau a sgwrs am wenyn, roedd dewis o gacennau a the neu goffi.

Roedden ni eisiau gwneud y prynhawn yn arbennig, yn groesawgar ac yn ysbrydoledig. Cawsom ymateb rhagorol gyda diddordeb gwirioneddol yn yr hyn yr ydym yn ei wneud a sut i gymryd rhan.

Diolch i’r holl wirfoddolwyr a gyfrannodd at y prynhawn ac at yr ardd dros yr wythnosau a’r misoedd. Mae’r ardd yn edrych yn anhygoel ac rydym wedi cael llawer o ffrwythau ac mae mwy i ddod. Os ydych chi’n wirfoddolwr gallwch fynd â rhywfaint o gynnyrch adref sydd wedi’i gasglu yn ystod y diwrnod hwnnw. Mae gennym lysiau a ffrwythau i’w rhannu fel: courgettes, ffa, roced, betys a chyrens.

The second part of the CAVO grant has been to make gates for the pond area with a team of 6 people. We had a great response to our advert for this short 4 day course to help make 2 gates.  Some people have been able to do the whole course, others just a day. The work at Coppicewood college has been led by Claire Turner who used to be a tutor for the college. We are grateful to Coppicewood for supporting the Forest Garden with this project. It’s going really well and there’s been a lot of fun with a fantastic atmosphere and a vibrant team. 

Yr ail ran o grant CAVO fu gwneud gatiau ar gyfer ardal y pwll gyda thîm o 6 o bobl. Cawsom ymateb gwych i’n hysbyseb ar gyfer y cwrs byr 4 diwrnod hwn i helpu i wneud 2 giât. Mae rhai pobl wedi gallu gwneud y cwrs cyfan, eraill dim ond diwrnod. Mae’r gwaith yng Ngholeg Coppicewood wedi cael ei arwain gan Claire Turner a arferai fod yn diwtor i’r coleg. Rydym yn ddiolchgar i Coppicewood am gefnogi’r Ardd Goedwig gyda’r prosiect hwn. Mae’n mynd yn dda iawn ac mae wedi bod llawer o hwyl gydag awyrgylch gwych a thîm bywiog.

Ein Cegin ‘Bake your Lawn’

We have been enjoying being one of Ein Cegin’s host gardens for their wonderful field-to-fork project with Flying Start.  Each month the families have come and taken part in a range of activities including sowing heritage wheat, making and glazing plates, sculpting using clay from our pond.  They prepare and share a delicious fresh communal meal with some of the ingredients being sourced from our site.  Last week they invited Rt.Hon Elin Jones MS to see what they were up to.  Luckily for us, she decided to come to Naturewise and it was a great opportunity for us to showcase all the wonderful things happening here, gather support for our future plans and to meet Anna – our prospective Ceredigion Plaid Cymru representative who lives in the Cardigan area.

Rydym wedi bod yn mwynhau bod yn un o erddi cynnal Ein Cegin ar gyfer eu prosiect gwych o’r cae i’r fforc gyda Dechrau’n Deg. Bob mis mae’r teuluoedd wedi dod a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys hau gwenith treftadaeth, gwneud a gwydro platiau, cerflunio gan ddefnyddio clai o’n pwll. Maent yn paratoi ac yn rhannu pryd cymunedol ffres blasus gyda rhai o’r cynhwysion yn dod o’n safle. Yr wythnos diwethaf fe wnaethant wahodd y Gwir Anrhydeddus Elin Jones MS i weld beth oeddent yn ei wneud. Yn ffodus i ni, penderfynodd ddod i Naturewise ac roedd yn gyfle ffantasic i ni arddangos yr holl bethau gwych sy’n digwydd yma, casglu cefnogaeth ar gyfer ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol a chwrdd ag Anna – ein darpar gynrychiolydd Plaid Cymru yng Ngheredigion sy’n byw yn ardal Aberteifi.

Next Month Sneak Preview / Rhagolwg Cipolwg y Mis Nesaf

Read More

School & Family Open Day 14-Jul-25

A super successful day and thank you to all the volunteers who supported Monday school, family open day. It was great to welcome 40 new people around the garden. They also thoroughly enjoyed the food and cakes made by volunteers. Thank you so much everyone. It was a a day with uncertain weather, with many different food dishes to produce. Wow. It was wonderful and the main point being that children and parents from Cardigan primary school had a lovely time. There was a lot of enthusiasm from everyone and people wanting to spread the word. So pleased and proud of our work.

Diwrnod hynod lwyddiannus a diolch i’r holl wirfoddolwyr a gefnogodd ysgol ddydd Llun, diwrnod agored i deuluoedd. Roedd yn wych croesawu 40 o bobl newydd o amgylch yr ardd. Fe wnaethon nhw hefyd fwynhau’r bwyd a’r cacennau a wnaed gan wirfoddolwyr yn fawr. Diolch yn fawr iawn i bawb. Roedd yn ddiwrnod gyda thywydd ansicr, gyda llawer o seigiau bwyd gwahanol i’w cynhyrchu. Wow. Roedd yn wych a’r prif bwynt oedd bod plant a rhieni o ysgol gynradd Aberteifi wedi cael amser hyfryd. Roedd llawer o frwdfrydedd gan bawb a phobl oedd eisiau lledaenu’r gair. Mor falch a balch o’n gwaith.

Read More

×