Ein Cegin’s Bake your Lawn project finale. Diweddglo prosiect ‘Pobi’ch Lawnt’ Ein Cegin.

Over the course of the year Ein Cegin with Flying Start and Plant Dewi, have been running their wonderful project at 3 local community gardens, funded by the National Lottery Heritage Fund.  The idea was to create a feast from field to fork, to engage and enthuse families about the origins & traditional methods of familiar foods.  Sessions were held once a month where the Flying Start families came with their small children, enjoyed the garden, prepared & ate delicious fresh food together and often undertook some kind of craft.  The sessions at Naturewise were on the same day as our regular volunteer days meaning that volunteers could join in with activities or continue with their garden tasks.  It was lovely to see people enjoying the garden and even nicer to get to share in the amazing food!

Dros y flwyddyn mae Ein Cegin gyda Dechrau’n Deg a Phlant Dewi wedi bod yn cynnal eu prosiect gwych mewn 3 gardd gymunedol leol, wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Y syniad oedd creu gwledd o’r cae i’r fforc, i ymgysylltu ac ennyn brwdfrydedd teuluoedd ynghylch tarddiad a dulliau traddodiadol bwydydd cyfarwydd. Cynhaliwyd sesiynau unwaith y mis lle daeth teuluoedd Dechrau’n Deg gyda’u plant bach, yn mwynhau’r ardd, yn paratoi ac yn bwyta bwyd ffres blasus gyda’i gilydd ac yn aml yn ymgymryd â rhyw fath o grefft. Roedd y sesiynau yn Naturewise ar yr un diwrnod â’n diwrnodau gwirfoddoli rheolaidd sy’n golygu y gallai gwirfoddolwyr ymuno â gweithgareddau neu barhau â’u tasgau gardd. Roedd yn hyfryd gweld pobl yn mwynhau’r ardd ac yn brafiach fyth cael rhannu yn y bwyd anhygoel!

‘April Bearded’ heritage wheat was sown in the spring – ours had very poor germination but the other gardens in Llandysul & Newcastle Emlyn were far more successful.  The harvested wheat was threshed at the Talgarreg Vintage Fair. 

Heuwyd gwenith treftadaeth ‘Barfog Ebrill’ yn y gwanwyn – gwnaeth rhai ni egino’n gwael iawn ond roedd y gerddi eraill yn Llandysul a Chastellnewydd Emlyn yn llawer mwy llwyddiannus. Cafodd y gwenith a gynaeafwyd ei ddyrnu yn Ffair Hen Bethau Talgarreg.

During one of the sessions Elin Jones MS and her colleague Anna Nichol (Plaid Cymru’s candidate for Cardigan in next years Senedd election) came to see the project.  Ein Cegin had invited them and we were very lucky that they chose to come to a session at our Community Garden rather than one of the others – this gave us the opportunity to showcase Naturewise, what we do and where we are. 

Yn ystod un o’r sesiynau daeth Elin Jones AS a’i chydweithiwr Anna Nichol (ymgeisydd Plaid Cymru dros Aberteifi yn etholiad Senedd y flwyddyn nesaf) i weld y prosiect. Roedd Ein Cegin wedi eu gwahodd ac roedden ni’n ffodus iawn eu bod nhw wedi dewis dod i sesiwn yn ein Gardd Gymunedol yn hytrach nag un o’r lleill – rhoddodd hyn y cyfle i ni arddangos Naturewise, yr hyn rydyn ni’n ei wneud a ble rydyn ni.

Guest artists were brought in to run the craft sessions.  Kristina harvested clay from our big pond for making little figures and brought commercial clay for items to be glazed and fired.  Plates, bowls and little candles were made and decorated, often featuring the image of the wheat. Participants could take these home after the final celebratory feast.

Daethpwyd ag artistiaid gwadd i mewn i gynnal y sesiynau crefft. Casglodd Kristina glai o’n pwll mawr ar gyfer gwneud ffigurau bach a daeth â chlai masnachol ar gyfer eitemau i’w gwydro a’u tanio. Gwnaed ac addurnwyd platiau, powlenni a chanhwyllau bach, yn aml yn cynnwys delwedd y gwenith. Gallai’r cyfranogwyr fynd â’r rhain adref ar ôl y wledd ddathlu olaf.

Erin ran a session on Corn Dollies, teaching participants how to make several different traditional forms of harvest tokens.

Off-site, the families learnt how to make cheese and butter with Maya at Caws Teifi

Sessions were also held at the Cardigan Family Centre.

Cynhaliodd Erin sesiwn ar Ddolïau Corn, gan ddysgu cyfranogwyr sut i wneud sawl math traddodiadol gwahanol o docynnau cynaeafu.

Oddi ar y safle, dysgodd y teuluoedd sut i wneud caws a menyn gyda Maya yng Nghaws Teifi.

Roedd sesiynnau hefyd yn cael eu cynnal yn Ganolfan y Teulu yn Aberteifi. 

The final feast had to be postponed due to the weather but was held successfully on Friday 17th October in glorious sunshine.  Juice was made from our apples using a manual scratter and press.  Carrie from Ceredigion Museum brought artefacts from their collection including butter stamps and harvest tokens.  Owen Shires entertained us with traditional songs and stories about his personal experience with heritage grains. It was a heart warming end to a beautiful project which brought new skills and new people of all ages to the Forest Garden – some have even been back on our normal volunteer days. 

Bu’n rhaid gohirio’r wledd olaf oherwydd y tywydd ond fe’i cynhaliwyd yn llwyddiannus ddydd Gwener 17 Hydref mewn heulwen ogoneddus. Gwnaethon ni sudd o’n afalau gyda offer torri a gwasgu â llaw.  Daeth Carrie o Amgueddfa Ceredigion ag arteffactau o’u casgliad gan gynnwys stampiau menyn a chofroddion cynhaeaf. Gwnaeth Owen Shires ein diddanni gyda chaneuon traddodiadol a straeon am ei brofiad personol gyda grawn treftadaeth. Roedd yn ddiweddglo cynnes i brosiect hardd a ddaeth â sgiliau newydd a phobl newydd o bob oed i’r Ardd Goedwig – mae rhai hyd yn oed wedi bod yn ôl ar ein dyddiau gwirfoddoli arferol.