Exciting Opportunities this month!

We had a great time at the CAVO and Job Centre Plus Volunteering and Jobs Fair today. It was great meeting local groups and potential volunteers. Thanks to the event, we got to chat, connect and explore some exciting opportunities.

Gaethon ni amser gwych yn y Ffair Gwirfoddoli a Swyddi CAVO a Job Centre Plus heddiw. Roedd hi’n wych cyfarfod â grwpiau lleol a gwirfoddolwyr posibl. Diolch i’r digwyddiad, cawsom sgyrsiau, cysylltu ac archwilio cyfleoedd cyffrous.

Update of opportunities at the Naturewise Community Forest Garden

Diweddariad ar gyfleoedd yng Ngardd Goedwig Gymunedol Naturewise

Saturday 19th (the third Saturday of the month)

A sunny day is promised. If you’ve been meaning to visit, this Saturday is a good day. You can pop in and have a wander around yourselves or have a tour and understand what a forest garden is about and the many uses of the plants for us and nature.  Join in the tasks that we will be doing – there’s always something to learn and we are good at helping you feel at home here in this beautiful garden.

Dydd Sadwrn 19eg ( trydydd dydd Sadwrn y mis)

Mae diwrnod heulog yn cael ei addo. Os ydych chi wedi bod yn bwriadu ymweld, mae dydd Sadwrn hwn yn ddiwrnod da. Gallwch chi alw i mewn i grwydro o gwmpas eich hun neu fynd ar daith a deall beth yw gardd goedwig a’r defnydd niferus o’r planhigion i ni a byd natur. Ymunwch yn y tasgau y byddwn yn eu gwneud – mae rhywbeth i’w ddysgu bob amser ac rydym yn dda am eich helpu i deimlo’n gartrefol yma yn yr ardd brydferth hon.

Tuesday 22nd

Learn how to Lime wash. Jud from Just in Lime  will be teaching us how to lime wash our own building and introducing lime generally. Must book with Claire (either claire@naturewise.org.uk  or 07732861104 leave your name and contact details and I will get back to you to confirm your place) and its £35 if you are not a volunteer with us. Bring your own goggles and we will provide gloves (we will have spare goggles on hand) this short course will be limited to 5 places only.

In the afternoon we will be joined by Sophie from Ein Cegin who will introduce their exciting new project Bake Your Lawn, which we are looking forward to being a part of.  

Dydd Mawrth 22ain

Dysgwch sut i gwyngalchu. Bydd Jud o Just in Lime yn ein dysgu sut i paentio ein hadeilad ein hunain gyda gwyngalch ac yn cyflwyno calch yn gyffredinol. Rhaid archebu lle gyda Claire (naill ai claire@naturewise.org.uk neu 07732861104 gadewch eich enw a manylion cyswllt a byddaf yn cysylltu â chi i gadarnhau eich lle) ac mae’n £35 os nad ydych yn wirfoddolwr gyda ni. Dewch â’ch gogls eich hun a byddwn yn darparu menig (bydd gogls sbâr gennym wrth law) cyfyngir y cwrs byr hwn i 5 lle yn unig.

Yn y prynhawn bydd Sophie o Ein Cegin yn ymuno â ni a fydd yn cyflwyno eu prosiect newydd cyffrous Pobi Eich Lawnt, yr ydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan ohono.

24th Thursday evening 6.30-8pm reflections on our plans for the coming year.

Nos Iau 24ain 6.30-8pm myfyrdodau ar ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Tuesday 29th (Half Term)

Pumpkin soup will be available to volunteers and we will be doing some pumpkin carving led by Raphaelle.   Feel free to bring images that celebrate this time of year and we will collect them together as a mood board for the day.

Around Halloween there are many mixed references to ghosts witches and lots of scary images. However we can take a moment to be aware of the continuing move into the darkest time of year, perhaps to reflect and connect with our loved ones who have passed over and to honour the ancestors. Last year we held a fantastic event with 120 people attending. We have been busy recently and have not had the time to put together such an event this year. Perhaps next year ?

Wishing you well in the colder months

Dydd Mawrth y 29ain (hanner tymor)

Bydd cawl pwmpen ar gael i wirfoddolwyr a byddwn yn gwneud ychydig o gerfio dan arweiniad Raphaelle. Mae croeso i chi ddod â delweddau sy’n dathlu’r adeg hon o’r flwyddyn a byddwn yn eu casglu ynghyd fel bwrdd syniadau ar gyfer y diwrnod.

Dros adeg Calan Gaeaf mae yna lawer o gyfeiriadau cymysg at ysbrydion, gwrachod a llawer o ddelweddau brawychus. Fodd bynnag, gallwn gymryd eiliad i fod yn ymwybodol o’r symudiad parhaus i amser tywyllaf y flwyddyn, efallai i fyfyrio a chysylltu â’n hanwyliaid sydd wedi pasio drosodd ac i anrhydeddu’r hynafiaid. Y llynedd cynhaliwyd digwyddiad gwych gyda 120 o bobl yn bresennol. Rydym wedi bod yn brysur yn ddiweddar a heb gael yr amser i drefnu digwyddiad o’r fath eleni. Efallai y flwyddyn nesaf?

Gan ddymuno’n dda i chi yn y misoedd oerach