Our herbal beds have flourished this year and we’ve recently been drying seeds to propagate more medicinal plants so that we can really take a harvest. The wool has really helped as a mulch.
marsh-mallow Althaea officinalis hocysen y morfa: “the leaves, flowers, roots and seeds are all edible. The roots contain mucilage which is sweet in flavour. Slice and boil the roots for 20 minutes then remove from the liquid. Boil the remaining liquid again with sugar to taste and whip to make old fashioned marsh mallow candies.”
(The lost book of herbal remedies Nicole Apelian, Claude Davis)
Marshmallow is used for leaky gut and too much acid, and can be used in dry coughs, bronchitis, asthma and congestion. Also teething pain, skin irritation, ulcers, injuries, urinary tract infections.
Many of the plants we are growing have many uses for us humans as well as creatures and it’s inspiring to learn. We’ve got marshmallow growing by our pond as well.
Mae ein gwelyau llysieuol wedi ffynnu eleni ac yn ddiweddar rydym wedi bod yn sychu hadau i luosogi mwy o blanhigion meddyginiaethol fel y gallwn gael cynhaeaf. Mae’r gwlân wedi helpu’n fawr fel tomwellt.
marsh-mallow Althaea officinalis hocysen y morfa “mae’r dail, y blodau, y gwreiddiau a’r hadau i gyd yn fwytadwy. Mae’r gwreiddiau’n cynnwys mucilage sydd â blas melys. Sleisiwch a berwch y gwreiddiau am 20 munud ac yna tynnwch o’r hylif. Berwch weddill yr hylif eto gyda siwgr i flasu a chwipiwch i wneud losin hen ffasiwn malws melys.”
(Llyfr coll o feddyginiaethau llysieuol Nicole Apelian, Claude Davis)
Defnyddir hocysen y morfa ar gyfer perfedd sy’n gollwng a gormod o asid, a gellir ei ddefnyddio am peswch sych, broncitis, asthma a thagfeydd. Hefyd poen dannedd, llid y croen, wlserau, anafiadau, heintiau’r llwybr wrinol.
Mae gan lawer o’r planhigion rydyn ni’n eu tyfu lawer o ddefnyddiau i ni fel bodau dynol yn ogystal â chreaduriaid ac mae’n ysbrydoliaeth i ddysgu. Mae gennym ni hocys y morfa yn tyfu ger ein pwll hefyd.
We started writing on slate next to plants as quick notes to tell us what these plants can help us with.
Dechreuon ni ysgrifennu ar lechi wrth ymyl planhigion fel
nodiadau byr i ddweud wrthym beth mae’r planhigion hyn
yn gallu ein helpu gyda.
Japanese wine berry in its first summer bearing beautiful shiny jewel-like berries.
Aeron gwîn Japaneaidd yn ei haf cyntaf, yn tyfu aeron sy’n sgleinio fel gemwaith hardd.
Making connections, the two Daves an unstoppable duo and part of a fun team of dedicated volunteers.
Gwneud cysylltiadau, y ddau Dave – deuawd na ellir ei atal ac yn rhan o dîm hwyliog o wirfoddolwyr ymroddedig.
This year there’s been plenty of produce on offer. Rhubarb crumble! And tayberry & blackcurrant topped Victoria sponge Eleni mae digon o gynnyrch wedi bod ar gael. Crymbl rhiwbob! Ac mae mwyar Tay a chyrens duon ar frig sbwng Victoria.
The wild willow arch into Cae Isaf worked on by Dave. When volunteers spend time at the garden, they begin to see things they want to work on and this is a lovely step to take. Volunteers can see the effect of their efforts and the overall contribution to an ever-developing wild and abundant food garden. This picture looks like something painted by Constable.
Y bwa helyg gwyllt i Gae Isaf y bu Dave yn gweithio arno. Pan fydd gwirfoddolwyr yn treulio amser yn yr ardd, maent yn dechrau gweld pethau y maent am weithio arnynt ac mae hwn yn gam hyfryd i’w gymryd. Gall gwirfoddolwyr weld effaith eu hymdrechion a’r cyfan yn cyfranu at ardd fwyd wyllt a thoreithiog sy’n datblygu’n barhaus. Mae’r llun hwn yn edrych fel rhywbeth wedi’i beintio gan Constable
Scything Pladuro
Many of us are enjoying learning and perfecting our scything to great effect. Its an easy to use and very effective tool especially in a garden full of fruit beds and trees. It’s easy to use around trees and of course good as a workout and silent. Also, you can cut the grass when it’s wet.
Mae llawer ohonom yn mwynhau dysgu ac yn perffeithio ein pladuro yn effeithiol iawn. Mae’n offeryn hawdd ei ddefnyddio ac effeithiol iawn yn enwedig mewn ardd yn llawn gwelyau ffrwythau a choed. Mae’n hawdd ei ddefnyddio o amgylch coed ac wrth gwrs yn dda fel ymarfer corff ac yn distaw. Hefyd, gallwch chi dorri’r glaswellt pan mae’n wlyb.
lump until we could work out what to do with it. We planted sage and rosemary. The sage here is in bloom and attracting bees. Dyma’r gwely sych yn ei wneud yn dda. Roedd pentwr o bridd gwneud o wneud llwybr. Gadawyd hwn fel lwmp welltog nes y gallem weithio allan beth i’w wneud ag ef. Plannon ni
saets a rhosmarin. Mae’r saets yma yn flodeuo a denu gwenyn.
Bugle Ajuga reptans Glesyn y coed
A good ground cover and very beneficial for insects and a well being plant. We will be planting more of this to keep grass and creeping buttercup from encroaching. A huge ongoing job.
Gorchudd daear da a buddiol iawn i bryfed ac yn blanhigyn lles. Bydden ni yn plannu mwy o hwn i gadw glaswellt a blodau ymenyn ymlusgol rhag ymledu. Swydd barhaus enfawr.
Pitmaston Pineapple
A fabulous tasting apple
Afal bach ond yn blasus iawn
There are still apples to pick and we gave a box to the Eco shop and the food bank. Some gorgeous apples, the garden seems to have produced vast amounts this year. Some have gone to be kept on behalf of the
volunteers in a cool place for eating later in the year. Mae yna afalau i’w hel o hyd ac fe wnaethon ni roi bocs i’r siop Eco a’r banc bwyd. Afalau hyfryd! Mae’n ymddangos bod yr ardd wedi cynhyrchu symiau enfawr eleni. Mae rhai wedi mynd i gael eu cadw ar ran y gwirfoddolwyr mewn lle oer ar gyfer bwyta yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Tree care: clearing grass around where the roots are growing, mulching to help with water retention and keeping the temperature consistent which the microbes like and replacing plastic guards with chicken wire.
Gofalu am goed: clirio glaswellt o gwmpas lle mae’r gwreiddiau yn tyfu, tomwellt i helpu gyda chadw dŵr a chadw y tymheredd yn gyson fel mae’r microbau yn hoffi ac ailosod gwarchodwyr plastig gyda ffens cyw iâr.
Starting to work on the smaller pond. This was dug and then left for when we had some time to begin this mammoth job. Fancy helping? It’s great fun and a lot can be achieved by a good team. Here we are covering the ground to block out what’s growing in order to plant anew. We were hoping to get a grant but alas we were not lucky this time. The grant was also going to get us a disabled access toilet amongst many other things. It’s a great disappointment that this won’t happen soon. Dechrau gweithio ar y pwll llai. Cloddiwyd hwn ac yna fe’i gadawyd tan oedd gennym ychydig o amser i ddechrau’r job enfawr yma. Ffansio helpu? Mae’n llawer o hwyl a gall tîm da gyflawni llawer. Yma rydyn ni’n gorchuddio’r ddaear i rwystro’r hyn sy’n tyfu er mwyn plannu o’r newydd. Roeddem yn gobeithio cael grant ond gwaetha’r modd nid oeddem yn lwcus y tro hwn. Roedd y grant hefyd yn mynd i gael toiled mynediad anabl i ni ymhlith llawer o bethau eraill. Mae’n siom fawr na fydd hyn yn digwydd yn fuan
Come and volunteer and learn how to build and work on a pond. There are so many opportunities to learn and build your skills here at Naturewise Community Forest Garden. Dewch i wirfoddoli a dysgu sut i adeiladu a gweithio ar bwll. Mae cymaint o gyfleoedd i ddysgu ac adeiladu eich sgiliau yma yng Ngardd Goedwig Gymunedol Naturewise.